Ein pobl sy’n gwneud Cyllid Cymru yn gymaint o lwyddiant
Pobl sy’n gwneud busnes. Yn Cyllid Cymru maent yn hyrwyddo ein
cyfleoedd buddsoddi, gan sicrhau y cyflawnir eich potensial ar
gyfer twf.
Tîm buddsoddi
Mae gennym dîm buddsoddi deinamig gyda
phrofiad o fyd cyfrifyddiaeth, bancio a masnach. Gall eu
harbenigedd hwy a’ch busnes chi ffurfio partneriaeth unigryw.
Gwasanaethau cwsmeriaid
Mae gan ein tîm gwasanaethau
cefnogaeth gefndir mewn cymorth busnes a masnach. Maent yn
gweithio mewn swyddfeydd rhanbarthol ym mhob rhan o Gymru ac yn
barod i’ch helpu i gyflawni eich uchelgais am dwf.
Rheolaeth weithredol
Dan arweiniad ein prif weithredwr, Siân Lloyd Jones, mae ein
tîm rheolaeth weithredol yn cynllunio ac
yn gweithredu’r strategaeth buddsoddi fydd yn arwain at fanteision
gwirioneddol i’ch busnes.
Bwrdd cyfarwyddwyr
Mae ein bwrdd cyfarwyddwyr
anweithredol yn gyfrifol am oruchwylio cyfeiriad strategol a
pherfformiad Cyllid Cymru. Mae’r bwrdd yn annibynnol o’r tîm
gweithredol ac mae ganddo gyfoeth o brofiad busnes ar lefel
ranbarthol a lefel fyd-eang.