Ein bwrdd

 

Mae gennym fwrdd cyfarwyddwyr gyda chyfuniad cryf o brofiad masnachol, ariannol a diwydiannol. Mae'n bwrdd yn cynnwys cadeirydd, 8 cyfarwyddwr anweithredol a chyfarwyddwr gweithredol, ein prif weithredwr, Siân Lloyd Jones.

 

Ian Johnson, chairmanIan Johnson

 

Mae Ian Johnson, cadeirydd Cyllid Cymru, wedi bod yn gysylltiedig â sefydlu, twf ac arnofiant nifer o gwmnïau drwy gydol ei yrfa. Yn gyn Brif Swyddog Gweithredol Biotrace International ccc, mae Mr Johnson ar hyn o bryd yn gadeirydd Evans Analytical Group ac yn ddirprwy gadeirydd AOI Medical Inc, a restrir ar AIM. Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol y Ruskinn Group ac yn gynghorydd i Tate and Lyle Ventures.


 

Jane Clayton, board memberJane Clayton


Roedd Jane Clayton yn gyfarwyddwr a chadeirydd Cymdeithas Adeiladu Abertawe, yn ddirprwy gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG, yn aelod o fwrdd cwmni teulu a chwmni deillio academaidd. Mae Jane yn gweithio fel cyfrifydd siartredig ac mae ganddi fwy na 25 mlynedd o brofiad fel cynghorydd ac yn fwy diweddar fel cyfarwyddwr anweithredol mewn busnesau bach a chanolig. Mae ganddi hefyd fwy na 20 mlynedd o gysylltiad gyda Phrifysgol Abertawe lle bu'n darlithio ar bynciau ariannol a chyfrifeg rheolaeth.


 

Ivar Gray, board memberIvar Grey

 

Mae Ivar Grey yn gyfrifydd siartredig ac yn aelod o'r Comisiwn Cystadleuaeth. Ymunodd â'r cwmni a ragflaenodd KPMG yn 1966, gan weithio ym Mhrydain, yr Iseldiroedd, Denmarc a Norwy. Fe'i penodwyd yn bartner yn 1981 a symudodd i Gymru yn 1988, gan gynghori cwmnïau a restrwyd yn gyhoeddus, cwmnïau preifat a chyrff sector cyhoeddus ar faterion busnes, ariannol, archwilio a llywodraethu corfforaethol. Ymddeolodd fel partner yn 2002. Mae’n gweithio fel cyfrifydd fforensig ar achosion troseddol a sifil.


 

Clive John, board memberClive John

 

Mae gan Clive John dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ecwiti preifat yn ogystal â bod yn gadeirydd busnes diagnosteg digidol ffyniannus a diddordebau busnes eraill. Bu'n gweithio i Lloyds TSB Development Capital (LLE), lle datblygodd brofiad sylweddol o fuddsoddi'n llwyddiannus mewn cwmnïau preifat a'u tyfu. Bu'n aelod o fyrddau busnesau mewn amrediad eang o ddiwydiannau.


 

Mike Killick, board memberMike Killick

 

Mike Killick yw prif swyddog ariannol The Peacock Group ccc (cwmni FTSE 250 cyn ei ddadrestru yn 2006). Bu gyda’r grŵp am 5 mlynedd, yn gyntaf fel ysgrifennydd cwmni a chyfarwyddwr ariannol y grŵp. Cyn ymuno â Peacocks, roedd gan Michael amrediad o uwch swyddi ariannol gyda Trusthouse Forte ccc, The Burton Group ccc ac Airtours ccc a bu’n gyfarwyddwr cyllid i frocer yswiriant adwerthu preifat a gefnogid gan ecwiti yn y sector busnesau bach a chanolig.


 

Peter Radcliffe, board memberPeter Radcliffe

 

Bu gan Peter Radcliffe uwch swyddi gweithredol mewn pedwar cwmni banc a TG FTSE 100 ac US Fortune. Mae ei gyfrifoldebau wedi cwmpasu tiriogaethau byd-eang a rhanbarthol, yn cynnwys dwy flynedd fel rheolwr gyfarwyddwr FDC Asia Pacific. Roedd yn un o aelodau cyntaf xénos, rhwydwaith angylion busnes Cymru, sy'n is-gwmni i Cyllid Cymru ccc. Mae'n llywydd Enterprise 100, Canolfan Entrepreneuriaeth Ysgol Fusnes Llundain ac yn gadeirydd Cronfa Her Technoleg Gyfun Prifysgol a Cholegau Llundain.


 

Chris Rowlands

 

Chris Rowland

Chris Rowlands yw awdur a chadeirydd Adolygiad Cyfalaf Twf Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Cychwynnodd ei yrfa gyda Banc Barclays yn 1973. Bu’n gyfarwyddwr 3i Investments ccc cyn ymddeol fel partner rheoli ar gyfer Asia. Ef yw dirprwy gadeirydd cyfredol Cymdeithas Adeiladu’r Principality.

 


 

Graham Thelwall Jones, board memberGraham Thelwall Jones

 

Mae Graham Thelwall Jones yn frocer stoc a rheolwr buddsoddi, cyn-gadeirydd Siambr Fasnach Lerpwl ac aelod-sefydlydd Cronfa Buddsoddiad Arbennig Glannau Merwy. Mae hefyd yn gyn-drysorydd Prifysgol Lerpwl ac mae wedi ymwneud ag ymelwa'n fasnachol ar syniadau academaidd.