Rheolaeth weithredol
Caiff Cyllid Cymru ei arwain gan dîm rheoli gweithredol cryf
gyda hanes rhagorol o lwyddiant. Maent yn arwain staff sy’n
gweithio ym mhencadlys y cwmni yng Nghaerdydd a swyddfeydd
rhanbarthol ledled Cymru.
Siân Lloyd Jones
Prif weithredwr
Penodwyd Siân yn brif weithredwr Cyllid Cymru yn 2004. Yn ystod y
cyfnod hwnnw mae wedi ailstrwythuro’r cwmni, gan ddatblygu’r ffocws
masnachol cryf sydd ganddo heddiw. Addysgwyd Siân yng Ngholeg
Somerville, Rhydychen, a dechreuodd ei gyrfa gyda nifer o
sefydliadau yn Ninas Llundain cyn dychwelyd i Gymru. Roedd yn prif
weithredwr Bwrdd Datblygu Cymru Wledig ac yn gyfarwyddwr
gweithredol yn Awdurdod Datblygu Cymru.
Mike Davies
Cyfarwyddwr risg
Ymunodd Mike â Cyllid Cymru yn 1999 ar ôl gweithio i Barclays Banc
ers 1989 ar ôl gorffen gradd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol
Caerdydd. Ar ôl cwblhau rhaglen hyfforddiant graddedigion Barclays,
bu gan Mike nifer o swyddi rheoli o fewn y banc ledled Cymru.
Ymunodd â Cyllid Cymru fel rheolwr cronfa benthyciadau cyn cael ei
benodi i’w swydd bresennol yn 2004.
Nick Moon
Cyfarwyddwr strategaeth a chyfathrebu
Ymunodd Nick â Cyllid Cymru yn 2002 a bu ganddo nifer o swyddi yn y
cwmni. Mae gan Nick MBA gweithredol o Ysgol Fusnes Tanaka Coleg
Imperial, lle arbenigodd mewn strategaeth uwch a chyfalaf menter.
Cafodd ganmoliaeth yn ei draethawd hir a ystyriai ffactorau
llwyddiant critigol ymyriadau llywodraeth mewn ariannu busnesau
bach a chymdeithasol. Cyn ymuno â Cyllid Cymru, bu’n gweithio i’r
Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel lle bu’n rhoi cymorth i Aelodau
Seneddol Ewropeaidd ar faterion datblygu economaidd, ac yn y sector
preifat i gwmni cyfleustodau.
Kevin O'Leary
Cyfarwyddwr cyllid a gweinyddiaeth
Kevin sy’n arwain timau cyllid a gweinyddiaeth Cyllid Cymru yn
fewnol. Ymunodd â’r cwmni yn 2006 o’i swydd flaenorol fel pennaeth
gwasanaethau cymorth Awdurdod Datblygu Cymru. Cyn hynny treuliodd
22 mlynedd yn gweithio mewn llywodraeth leol yng Nghymru, gyda’i
swydd olaf yno yn brif gyfrifydd awdurdod unedol yn ne Cymru am
chwe blynedd. Astudiodd Kevin yn Ysgol Fasnach Lerpwl.
Peter Wright
Cyfarwyddwr buddsoddi
Ymunodd Peter â Cyllid Cymru fel cyfarwyddwr buddsoddi yn 2004 o’i
swydd flaenorol fel pennaeth cyllid caffael Banc Fortis. Bu’n
gweithio i NatWest am 31 mlynedd, yn cynnwys cyfnodau fel pennaeth
uned cyllid arbenigol y banc a bu’n gyfarwyddwr corfforaethol
canolfan busnes masnachol mwyaf y banc yn Llundain oedd yn
canolbwyntio ar gwmnïau twf cyflym yn y sectorau technoleg ac
e-fasnach. Bu’n aelod o fwrdd Cyllid Cymru am dair blynedd cyn ei
benodiad.