Gwnewch gais yn awr
Busnesau sy’n chwilio am fuddsoddiad
Sut i wneud cais
Darllenwch ein meini prawf
buddsoddi i ganfod os ydych yn barod am fuddsoddiad. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw
gwestiynau am ein meini prawf a’ch cymhwyster.
- Lawrlwythwch ac argraffu cais am fenthyciadau hyd at
£25,000 neu fuddsoddiad dros
£25,000.
- Anfonwch eich cais wedi’i lenwi a’i lofnodi atom.
- Gofynnir i chi gynnwys gwybodaeth i gefnogi’ch cais pan fyddwn
yn gwneud eich cais.
Ein cyfeiriad
Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llofnodi at: Cyllid Cymru, Tŷ
Oakleigh, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3DQ.
Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ystyriwn nifer o ffactorau wrth asesu eich cais, felly mae angen
i ni weld:
- Cynllun busnes yn rhoi manylion hanes eich busnes a chynlluniau
ar gyfer y dyfodol
- CV pob perchennog busnes, cyfarwyddwr a phartneriaid
- Cyfrifon archwiliedig o’r tair blynedd ddiwethaf
- Copïau o gyfriflenni banc o’r chwe mis diwethaf
- Mantolen rhagamcanol, cyfrif elw a cholled a llif arian am y
ddwy flynedd ddiwethaf
- Cyfrifon rheolaeth diweddar a rhestr hen ddyledwyr/credydwyr
(os oes gennych rai)
- Tystysgrif ymgorfforiad (os oes gennych un)
Beth sy’n digwydd nesaf?
Gwelwch sut ydym yn gwneud penderfyniad ar
fuddsoddi.