Afonwen
Proffil busnes
Lleoliad: gogledd a de ddwyrain Cymru
Sector: environmental goods and
services
Gwefan: www.afonwenservices.com
Buddsoddiad
Swm: £1,000,000
Math: Dyled
Swyddog Gweithredol: Heather Abrahams
Pam y gwnaethom fuddsoddi
Mae Afonwen yn gwmni twf ac yn un o olchfeydd preifat mwyaf y
Deyrnas Unedig. Gwnaeth y cwmni gais i Cyllid Cymru am gyfalaf datblygu i barhau ei ehangiad. Mae ei
reolwyr wedi buddsoddi £11m mewn technoleg newydd a chyfleusterau
ers 1999.
Mae gan Afonwen hanes cryf o lwyddiant a chynllun twf strategol.
Mae ei wybodaeth o’r farchnad wedi gweld y cwmni’n cyflwyno
llinellau cynnyrch newydd, megis gwasanaeth llieiniau o’r radd
flaenaf, a chyflwyno technolegau amgylcheddol newydd ar gyfer
ailgylchu a chael gwared â gwastraff.
Y canlyniad
Mae’r buddsoddiad o £1m yn golygu y gall Afonwen ehangu ei
sylfaen cleientiaid. Bydd yn cyflwyno cynnyrch a gwasanaethau
newydd gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth llieiniau o’r radd
flaenaf. Mae’r cwmni’n galluogi’r cwmni i fuddsoddi ymhellach mewn
technoleg newydd a sicrhau stociau newydd o lieiniau.
Geirda
"Gwelodd yr ychydig flynyddoedd diwethaf fuddsoddiad sylweddol
yn y busnes ac mae’r buddsoddiad diweddaraf yma, gyda chefnogaeth
Cyllid Cymru, yn ein galluogi i barhau i dyfu.” Mark Woolfenden,
rheolwr gyfarwyddwr, Afonwen.
"Mae gan Afonwen gynllun twf strategol cryf sy’n ei alluogi i
fuddsoddi mewn technoleg newydd ac ehangu i farchnadoedd newydd.
Drwy gadw ei ethos teulu o ansawdd, mae wedi llwyddo i gadw rhai
cleientiaid am 30 mlynedd.” Heather Abrahams, swyddog gweithredol
buddsoddi, Cyllid Cymru