ChevlerChevler

 

Proffil busnes

 

Lleoliad: de ddwyrain Cymru

Sector: gweithgynhyrchu

Gwefan: www.chevler.co.uk

 

Buddsoddiad

 

Swm: £525,000

Math: dyled

Gweithredydd: Nick Larcombe

 

Pam y gwnaethom fuddsoddi

 

Mae Chevler yn gwneud cesys pobi papur. Mae’r cwmni wedi sefydlu ers cryn amser ac mae ganddo nifer fawr o gwsmeriaid ffyddlon gyda chyfran marchnad o 40%.

 

Roedd gan dîm rheoli Chevler gynllun busnes cryf. Roeddent eisiau prynu’r cwmni a chyflwynodd Broomfield and Alexander, y cynghorwyr corfforaethol, y cynnig i Cyllid Cymru.

 

Y canlyniad

 

Aeth MBO Chevler yn ei flaen a chyfunodd ei fusnes ei weithrediadau mewn un safle yn Hengoed. Datblygodd y cwmni offer pwrpasol fydd yn ei alluogi i gynyddu nifer ei archebion. Mae Chevler yn awr yn bwriadu ymelwa ar gyfleoedd yn Ewrop a’r Unol Daleithiau yn ogystal ag ehangu ei ddewis cynnyrch.

 

Geirda

 

“Mae tîm rheoli Chevler wedi yn sefydlu ei hunan yn arwain y farchnad a bydd yn hyrwyddo dyfodol y cwmni yn dilyn yr MBO yma.” Stuart Whelan, rheolwr gyfarwyddwr, Chevler.

 

“Mae buddsoddiad Cyllid Cymru wedi galluogi Chevler i wella ei broses cynhyrchu ac mae hyn wedi’i helpu i berfformio’n well na’r disgwyl. Rydym yn hapus i barhau i gefnogi twf Chevler.” James Henderson, swyddog gweithredol buddsoddi, Cyllid Cymru.