Enfis
Proffil busnes
Lleoliad: de orllewin
Cymru
Sector: uwch dechnoleg
Gwefan: www.enfis.com
Buddsoddiad
Swm: £600,000
Math: ecwiti
Gweithredydd: Paul Lee
Pam y gwnaethom
fuddsoddi
Roedd Enfis yn gwmni deillio o Brifysgol Abertawe a dderbyniodd
gyllid ecwiti dechreuol gan y Wesley Clover Corporation, a gadeirir
gan Syr Terry Matthews.
Y
canlyniad
Ar ôl derbyn dau gylch buddsoddi gan Cyllid Cymru, yn 2004 a
2005, tyfodd Enfis yn un o ddatblygwyr a chyflenwyr mwyaf y byd o
araeau deuodau allyrru golau (LED) ac injans craff.
Gadawodd Cyllid Cymru yn llwyddiannus yn 2005 gydag adenilliad o
1.5x.
Tystebau
"Ers lansio’n llwyddiannus ar AIM ym mis Mawrth 2007, rydym wedi
sicrhau nifer o gytundebau dosbarthu newydd sydd wedi cadarnhau ein
safle blaenllaw o fewn y diwydiant. Helpodd buddsoddiad Cyllid
Cymru ni i gyflawni hyn a rhoi sylfaen i’r cwmni ar gyfer twf.”
Shaun Oxenham, prif weithredwr, Enfis.
“Mae ein buddsoddiad yn Enfis wedi helpu’r cwmni i
ddatblygu ei dechnoleg i’r graddau fod ganddo yn awr eiddo
deallusol helaeth a throedle cryf o fewn y farchnad
fyd-eang.” Paul Lee, uwch weithredydd buddsoddi,
Cyllid Cymru.