Flexicare Medical Cyf
Proffil busnes
Lleoliad: de orllewin Cymru
Sector: dyfeisiau meddygol
Gwefan:www.flexicare.com
Buddsoddiad
Swm: £350,000 (fel rhan o gyd-fuddsoddiad
£750,000 gyda HSBC)
Math: dyled
Swyddog Gweithredol: Rachel Miles
Pam y gwnaethom fuddsoddi
Roedd Cyllid Cymru wedi gwneud dau gylch buddsoddi yn flaenorol
yn Flexicare. Roedd gan y cwmni enw da fel un o brif gynhyrchwyr a
chyflenwyr y byd ar gyfer cynnyrch gofal iechyd ac roedd ganddo
gynlluniau i ehangu ei weithrediadau yn Asia.
Y canlyniad
Mae Flexicare wedi ehangu ei gyfleusterau ymchwil a datblygu a
gwerthiant ers i ni fuddsoddi yn y cwmni. Mae hyn wedi galluogi
Flexicare i gryfhau ei weithrediadau gartref a chynyddu allforion,
gan ehangu i’r farchnad yn China.
Tystebau
“Gall buddsoddiad parhaus arwain at dwf cryf drwy gynyddu
gwerthiant i diriogaethau newydd. Rydym yn falch i gefnogi busnes
arall eto yng Nghymru wrth iddo ehangu’n fyd-eang.” Rachel Miles,
arweinydd tîm portffolio, Cyllid Cymru.
“Mae’r buddsoddiad gan Cyllid Cymru a’n bancwyr HSBC wedi
sicrhau ein bod yn parhau â’n strategaeth twf.” Dr Ghassem
Poormand, rheolwr gyfarwyddwr, Flexicare Medical Cyf.