InngotPortfolio, Inngot,

 

Proffil busnes

 

Lleoliad: Abertawe

Sector: technoleg gwybodaeth a meddalwedd

Gwefan: www.inngot.com

 

Buddsoddiad

 

Swm: £100,000 (rhan o gyd-fuddsoddiad £160,000 gyda buddsoddwyr angel)

Math: ecwiti

Swyddog gweithredol: Ann Casey

 

Pam y gwnaethom fuddsoddi

 

Mae Inngot yn gwmni cyfnod cynnar gydag ymagwedd flaengar at ariannu asedau a datblygodd wasanaeth cofrestru diogel a marchnad ar-lein sy’n galluogi cwmnïau i gyhoeddi manylion eu heiddo deallusol. Gall rhestriad cwmni ei helpu i ddenu busnesau neu ddeiliaid trwydded newydd, dynodi cyfleoedd datblygu, a chodi cyfalaf.

 

Roedd Cyllid Cymru wedi buddsoddi’n flaenorol yn Inngot ar ei gyfnod cychwynnol. Mae gan y cwmni dîm rheoli profiadol gyda’r potensial i gyflawni ei gynlluniau twf.

 

Y canlyniad

 

Bydd y buddsoddiad yn galluogi Inngot i barhau i ddatblygu a marchnata ei wasanaethau fel bod y cwmni’n cychwyn cynhyrchu refeniw o’i wasanaethau. Mae’n anelu i ddod yn arweinydd marchnad yn y sector newydd o ariannu asedau ar-lein.

 

Mae’r cwmni eisoes wedi denu sylfaen eang o danysgrifwyr gyda chynllun lansio effeithlon ac mae ganddynt y potensial i ddod yn arweinydd mewn marchnad newydd.

 

Tystebau

 

“Bu buddsoddiad gan Cyllid Cymru yn bwysig iawn i Inngot. Mae’n bleidlais wych o hyder yn y cysyniad.” Martin Brassell, cyfarwyddwr, Inngot.

 

“Rydym yn falch i fuddsoddi mewn busnes sydd â’r potensial i ddatlbygu eiddo deallusol a masnacheiddio busnesau eraill.” Ann Casey, swyddog gweithredol buddsoddi, Cyllid Cymru.