Mesuro

Mesuro

 

Proffil busnes

 

Lleoliad: de ddwyrain Cymru

Sector: cyfathrebu

Gwefan: www.mesuro.com

 

Buddsoddiad

 

Swm: £370,000 (rhan o gyd-fuddsoddiad £1m gyda Fusion IP a Sefydliad ERA)

Math: ecwiti

Swyddog gweithredol: Steve Smith

 

Pam y gwnaethom fuddsoddi

 

Mae mesuro yn gwmni deillio a ddangosodd ei eiddo deallusol unigryw. Datblygodd y cwmni dechnoleg newydd a all ostwng allyriadau CO2 a defnydd ynni cwmnïau ffonau symudol.

 

Y canlyniad

 

Bydd Mesuro yn defnyddio cyd-fuddsoddiad Cyllid Cymru i fasnacholi technoleg sy’n gwella effeithiolrwydd ynni rhwydweithiau cyfathrebu symudol.

 

Geirda

 

“Mae gan Sefydliad ERA ymroddiad i gefnogi’r sector electro-technoleg. Mae’r dechnoleg a gynhyrchodd Mesuro a’r cyfle i fuddsoddi mewn cwmni’n deillio o Brifysgol Caerdydd yn gyffrous.” Syr Alan Rudge, cadeirydd, Sefydliad ERA.

 

“Roeddem yn falch i strwythuro pecyn buddsoddi sy’n rhoi cyfle i Mesuro gwblhau ei ddatblygiad cynnyrch a chyflawni ei werthiannau cyntaf hollbwysig.” Steve Smith, cyfarwyddwr buddsoddiadau cyfnod cynnar, Cyllid Cymru.