SmartKem
Proffil busnes
Lleoliad: gogledd Cymru
Sector: opto-electroneg
Web site: www.smartkem.com
Buddsoddiad
Swm: £75,000 (rhan o gyd-fuddsoddiad £250,000
gydag angylion busnes xénos)
Math ecwiti
Swyddog Gweithredol: John Mihell
Pam y gwnaethom fuddsoddi
Mae SmartKem yn gwmni twf cyfnod
cynnar sydd â chynlluniau i chwildroi’r diwydiant
gweithgynhyrchu electroneg drwy ddatblygu proses electroneg
argraffu laser newydd (LPE). Bydd y broses yn ei gwneud yn bosibl i
argraffu byrddau cylched ar unrhyw arwyneb, gan felly ostwng costau
gweithgynhyrchu.
Y canlyniad
Bydd SmartKem yn defnyddio’r buddsoddiad a’r symud diweddar i
Technium OpTIC i hybu ei dwf. Mae gan y cwmni gynlluniau i
ddatblygu prototeip drwy gydweithio gyda chwmnïau eraill yn ardal
Llanelwy. Bydd hefyd yn defnyddio datblygiadau yn y diwydiant
LPE.
Mae’r cymwysiadau posibl yn amrywio o bapur electronig hyblyg i
ddillad thermol, gan roi cwmpas ar gyfer datblygu yn y dyfodol.
Tystebau
"Ein cwmni ni yw’r un cyntaf i fod ag ymroddiad llawn i ffilmiau
tenau electronig ar gyfer argraffu laser. Roedd angen i ni ddod o
hyd i fuddsoddwyr a fyddai’n galluogi i’r cwmni i gychwyn arni, a
hefyd i rannu ein hangerdd ar gyfer y diwydiant hwn sy’n datblygu’n
gyflym.” Steve Kelly, rheolwr gyfarwyddwr, SmarKem.
“Mae SmartKem yn gwmni cyn-refeniw blaengar sy’n gweithredu mewn
sector twf uchel ac rydym yn hyderus iawn o’r potensial masnachol
ar gyfer eiddo deallusol unigryw'r cwmni.” John Mihell, swyddog
gweithredol buddsoddi, Cyllid Cymru