Cwmni laser yn targedu twf ar ôl i’r rheolwyr ei brynu
09/06/09
Mae perchnogion newydd cwmni yn Ne Cymru a dreuliodd wyth
mlynedd yn datblygu amrediad o laserau perfformiad uchel a
dibynadwy iawn yn anelu i ddyblu eu trosiant o fewn tair blynedd ar
ôl i’r rheolwyr brynu’r cwmni.
Sefydlwyd Global Laser yn 2001 gan bum buddsoddwr preifat.
Ymunodd y cyfarwyddwr cyllid, David Berckerley, â dau o’r pum
buddsoddwr cyntaf - y cadeirydd, Dr John Watkinson a’r rheolwr
gyfarwyddwr, John Miller - i brynu cyfranddaliadau’r tri buddsoddwr
arall gwreiddiol.
Ariannwyd y ddêl gan y rheolwyr a Cyllid Cymru ccc, gyda Mark
Hislop o Broomfield & Alexander yn cynghori ar y prisiant, y
cynllun busnes, rhagolygon, penawdau cytundeb y telerau, negodi’r
dêl a rheoli ynghyd â strwythuro’r ddêl a chynllunio treth.
Cafwyd cyngor cyfreithiol gan Eversheds a chefnogaeth
ymgynghoriaeth hefyd gan y Banc Gwybodaeth, cynllun Llywodraeth
Cynulliad Cymru sy’n cefnogi cwmnïau twf uchel yng Nghymru.
Nawr mae’r cwmni, sy’n cyflogi 22 o bobl ar Stad Ddiwydiannol
Cwmtyleri yn Abertyleri, yn barod i fanteisio ar flynyddoedd o
fireinio cynnyrch a datblygu technoleg unigryw ar gyfer rheoli
laserau digidol i gynyddu trosiant o’i £1.2m presennol i £3m yn y
tair blynedd nesaf.
Mae modiwlau laser uwch Global Laser yn cynnwys deuod laser i
gynhyrchu’r golau, lens i greu’r allbwn a ddymunir - llinell syth,
patrwm grid, neu gylchoedd consentrig, a chydrannau rheoli
electronig, a medrir eu defnyddio mewn amrywiaeth enfawr o
gymwysiadau o roboteg a gofal iechyd i amddiffyn.
Fe’i gwerthir ym mhob rhan o’r byd, yn cynnwys yr Unol
Daleithiau, Tsieina, Japan a Korea, ac maent yn cynnwys darllen
codau bar, gosod cydrannau ar fyrddau cylchred neu fotymau ar
grysau, llywio cleifion ar sganeri meddygol, sganio retina a mesur
dyfnder teiars ar geir F1 wrth iddynt fynd amgylch cylch
rasido.
Dywedodd John Miller, y rheolwr gyfarwyddwr sy’n gyn aelod o
fwrdd Vodafone a Chymdeithas Adeiladu Halifax, mai ansawdd ac
arloesedd oedd yr arwyddeiriau a fyddai’n mynd â’r cwmni ymlaen i
farchnadoedd newydd a chontractau newydd.
“Dros y blynyddoedd, rydym wedi mynd â laserau o fod yn eitem
cyfleustod gwerth isel i amrediad o ddeunyddiau soffistigedig a
phŵer uchel,” meddai.
“Mae’r arloesedd hwnnw wedi parhau gyda’n gwaith dros y tair
blynedd ddiwethaf i ddatblygu meddalwedd sy’n awr yn ein galluogi i
symud o reolaeth analog i ddigidol. Ni yw’r unig gwmni sy’n medru
gwneud hyn, ac mae’n golygu ein bod yn medru gwneud laserau bach
iawn a fedrir eu defnyddio mewn amrywiaeth fwy byth o
gymwysiadau.
“Byddwn yn awr yn edrych i wella ein trefniadau partneriaeth
gyda’n cwsmeriaid, dosbarthwyr ac asiantau, a gyda’n gilydd sicrhau
llyfr archebion cryf iawn.”
Dywedodd Mark Hislop, cyfarwyddwr cyllid corfforaethol
Broomfield & Alexander, fod y cwmni yn enghraifft dda o gwmni
gyda chynnyrch ansawdd uchel mewn marchnad sy’n datblygu, a
fyddai’n manteisio o feddwl ffres a natur ddeinamig ei strwythur
rheoli newydd.
“Bydd y pryniant gan y rheolwyr yn galluogi Global Laser i
ymchwilio ffyrdd ychwanegol o weithgaredd masnachol yn cynnwys y
genhedlaeth nesaf o dechnoleg laser, tra’n parhau i weithio i
sicrhau ansawdd gwell byth i’w gwsmeriaid,” meddai.
Derbyniodd Global Laser fuddsoddiad gan Cyllid Cymru ccc mewn
cylchoedd cyllido blaenorol.
Arweiniwyd y ddêl gan Rachel Miles, Swyddog Gweithredol
Portffolio yn Cyllid Cymru ccc, gyda Rhian Pugh, Swyddog Gweithredu
Buddsoddi. Dywedodd Rachel y byddai’r pryniant gan y rheolwyr yn
galluogi Global Laser i symud ymlaen gyda chynlluniau am dwf.” “Mae
olyniaeth ddiwnïad tîm rheoli yn hollbwysig i dwf parhaus busnes.
Rydym yn falch i fod wedi cefnogi’r rheolwyr i brynu Global La`ser
gyda chyllid buddsoddi a fydd yn galluogi’r cwmni i dyfu a datblygu
cynnyrch a marchnadoedd newydd.”
Ymholiadau gan y cyfryngau
E-bost: communications@financewales.co.uk
Ffôn: 029 2033 8126