Hunger yn ennill gwobr Camera D’Or yn Cannes
Sicrhaodd
Cronfa ED Creadigol Cymru lwyddiant arall mewn gŵyl ffilmiau
ryngwladol bwysig gyda ffilm Hunger yn ennill gwobr Camera D'Or
prize yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2008.
Mae Hunger yn dilyn bywyd yng ngharchar y
Maze, Gogledd Iwerddon, gyda dehongliad o ddigwyddiadau teimladwy
iawn o amgylch streic newyn yr IRA 1981 a arweiniwyd gan Bobby
Sands. Cafodd y sgript ei chyd-ysgrifennu a’i chyfarwyddo gan yr
artist Steve McQueen a’r dramodydd gwobrwyol Enda Walsh, gyda
Michael Fassbender yn y brif ran.
Hunger yw’r ffilm ddiweddaraf i’w chefnogi gan
y Gronfa ED i dderbyn cydnabyddiaeth ryngwladol. Mae’n dilyn The
Edge of Love, oedd yn canolbwyntio ar ran o fywyd y bardd Dylan
Thomas gyda Keira Knightley, Sienna Miller, Cillian Murphy a
Matthew Rhys yn y prif rannau.
"Mae cael cydnabyddiaeth ryngwladol o’r fath ar gyfer y
cynyrchiadau ffilm a gefnogwyd gan Gronfa ED Creadigol Cymru yn
dyst i safonau’r diwydiannau creadigol yng Nghymru”, meddai Bethan
Cousins, rheolwr Cronfa ED.