Y gronfa newydd £150m yw’r gyntaf yn y Deyrnas Unedig

 

Mae Cyllid Cymru wedi sicrhau £75 miliwn o gyllid o Fanc B`uddsoddi Ewrop (EIB) dan gynllun JEREMIE (Cyd Adnoddau Ewropeaidd ar gyfer Busnesau Micro i Ganolig) yr Undeb Ewropeaidd.

 

Mae hyn yn rhan allweddol o’n cronfa newydd £150 miliwn.

 

Cyllid Cymru yn arwain y ffordd

 

Y gronfa yw’r cyntaf i’w chodi o gynllun JEREMIE yn y Deyrnas Unedig.

 

“Rwy’n sicr y bydd ein perthynas gref a llwyddiannus gyda Cyllid Cymru yn gweithredu fel catalydd i annog mwy o gynlluniau JEREMIE yn rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig”. Simon Brooks, Is-lywydd, EIB.

 

Cronfeydd a reolir

 

Mae Cyllid Cymru yn awr yn rheoli cronfeydd o £270 miliwn, yn cynnwys y gronfa ddiweddaraf o £150 miliwn. Rydym wedi buddsoddi dros £110 miliwn ym musnesau bach a chanolig Cymru ers 2001 ac wedi ysgogi £322 miliwn.

 

Mae gennym dargedau buddsoddi uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.

 

Mae mwy o wybodaeth am hanes proffidiol Cyllid Cymru yn adolygiad blynyddol 2007 - 08.