Cyllid dilynol i Camre Cymru
29/05/09
Gall Camre Cymru, y prif gwmni annibynnol ym Mhrydain ar
gyfer alldeithiau ieuenctid, barhau â’i gynlluniau am dwf diolch i
fuddsoddiad dilynol gan Cyllid Cymru.
Rydym wedi buddsoddi cyfanswm o £710,000 yn Camre Cymru. Mae’r
cylch diweddaraf yn rhoi mwy o gyfalaf i’r cwmni a bydd yn ei
ddefnyddio i ehangu ei sylfaen cleientiaid.
Buddsoddi ar gyfer y tymor hir
Rydym yn awyddus i barhau i weithio gyda’n cwsmeriaid ar ôl
gwneud buddsoddiad dechreuol. Pan gysylltodd Outlook Expeditions â
ni i gael cyllid dilynol, roeddem yn hapus i siarad gyda’i
sefydlwyr, Matt Wells a Rhys Davies.
Gwnaeth Cyllid Cymru nifer o fuddsoddiadau yn Camre Cymru ers ei
sefydlu yn 2001. Y buddsoddiad diweddaraf yw £470,000 ym Mai
2009.
Gall ein harbenigwyr buddsoddi strwythuro’r pecyn cyllido cywir
i gefnogi ehangiad eich cwmni. Mae’r buddsoddiadau a wnaethom yn
Cyllid Cymru yn gyfuniad o ddyled ac ecwiti.
I ganfod sut y gall Cyllid Cymru eich helpu chi i gyflawni eich
uchelgais am dwf, neu i ganfod sut y gall cylch arall o gyllid
gefnogi ehangiad eich busnes cysylltwch â
ni.
Ehangu moesegol
Ers 2001 mae Camre Cymru wedi rhoi cyfle i filoedd o bobl ifanc
gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. Bydd ein buddsoddiad
yn galluogi Camre Cymru i gynyddu ei sylfaen cleientiaid drwy
gysylltu gyda mwy o ysgolion a grwpiau ieuenctid.
Mae’r cwmni, sy’n seiliedig yn Llanberis, yn gweithredu mewn mwy
na 40 o gyrchfannau o amgylch y byd. Mae’n hyrwyddo ymwybyddiaeth
o’r amgylchedd a theithio cyfrifol ac ef yw’r cwmni cyntaf o‘i fath
i gael statws CarbonNeutral.