Buddsoddi ar gyfer yr hirdymor
08/09/09
Gyda llawer o fusnesau yn canolbwyntio ar eu twf tymor canol i
hirdymor, mae cyllid buddsoddi yn flaenoriaeth. Fel canlyniad, mae
llawer o ddiddordeb yng nghronfa £150 miliwn Cyllid Cymru.
Buddsoddwch yn awr i fedi manteision y dyfodol
Mae llawer o fusnesau yn ystyried gwella effeithiolrwydd,
gostwng costau, buddsoddi mewn seilwaith neu offer newydd, ehangu
neu hyd yn oed brynu busnes arall.
Cred Cyllid Cymru mai dyma’r amser cywir i edrych ymlaen ac
ystyried yr hyn sydd angen iddynt wneud i fedi manteision yn y
dyfodol.
I ganfod sut gall Cyllid Cymru eich helpu i wireddu eich
amcanion hirdymor, siaradwch gydag un o'n
harbenigwyr buddsoddi.
Buddsoddiad dilynol yn cefnogi Inscapes i ehangu yn y Deyrnas
Unedig
Roedd Inscapes, sy’n arbenigo mewn tywyrch, angen buddsoddiad
dilynol i sicrhau twf hirdymor y cwmni drwy ehangu ei fusnes
tirlunio, meysydd chwarae a thywyrch amgylcheddol.
Mae gan y cwmni eisoes nifer fawr o gleientiaid proffil uchel a
bydd ei ehangiad diweddaraf yn ei alluogi i ehangu ei adran
amgylcheddol yn ogystal â sicrhau mwy o gontractau tirlunio a
chaeau chwaraeon ledled y Deyrnas Unedig fel rhan o’i strategaeth
twf.
Mae sicrhau buddsoddiad gan Cyllid Cymru yn golygu y gall
Inscapes dargedu’r farchnad amgylcheddol lewyrchus a chynyddol.
Anelu’n uchel i helpu busnesau i fuddsoddi ar gyfer yr
hirdymor
Nod Cyllid Cymru yw buddsoddi mwy fyth ym musnesau Cymru yn 2009
- 10 drwy strwythuro’r pecynnau cyllid buddsoddi cywir. Bydd
gweithio gyda busnesau a’u cynghorwyr yn hollbwysig i gyflawni’r
nod yma.