Cynllun busnes o’r math gorau?
Mae pawb ohonom yn gwybod bod rhedeg busnes twf proffidiol yn
dibynnu ar gynllunio cadarn. Mae llawer o ddulliau a thechnegau y
gall busnesau eu defnyddio i greu cynllun busnes effeithiol.
Mae cynlluniau busnes effeithiol yn
- sicrhau ffocws rheolwyr busnes ar eu hamcanion
a’r gyllideb
- galluogi rheolwyr busnes i fesur cyraeddiadau
yn erbyn y cynllun
- helpu i ddynodi’r adnoddau sydd eu hangen i
gyflawni amcanion
- sicrhau ffocws gweithwyr ar gyfeiriad y
busnes
- dangos i ddarpar fuddsoddwyr eich bod o
ddifrif am dyfu eich busnes
Mae’n amlwg fod llawer yn y fantol ar gyfer busnesau nad ydynt
yn cynllunio’n effeithiol.
Cystadleuaeth cynllunio busnes
Os credwch fod eich cynllun busnes o’r math gorau, beth am
gymryd rhan yn Her Technium eleni?
Mae Her Technium yn gystadleuaeth cynllunio busnes ar gyfer
busnesau uwch-dechnoleg a seiliedig ar wybodaeth.
Ewch i www.technium.co.uk/challenge
i gael mwy o wybodaeth am Technium Challenge UK a sut i gymryd
rhan.
Busnesau portffolio
Fel enillwyr Her Technium 2005/06, symudodd Trace
Technologies i ganolfan arloesedd o’r fath ddiweddaraf,
Technium OpTIC. Cydnabu Cyllid Cymru hefyd botensial twf Trace o’i
gynllun busnes a threfnodd gytundeb syndicâd £600,000 gydag angel
busnes xénos a buddsoddwyr preifat a sefydliadol eraill.
Cymerodd FauvelKhan o Abertawe ran yn Her
Technium 2008 a bu’n gweithio gyda Barry Wanless, rheolwr deillio
masnachol. Sicrhaodd cynllun busnes Fauvel Khan fuddsoddiad dyled
gan Cyllid Cymru i’w helpu i fasnacholi eu cynnyrch.
I ganfod mwy am sut y gall cynllunio busnes effeithiol helpu
eich busnes i sicrhau buddsoddiad, cysylltwch
â ni.