Fromstock yn symud ymlaen ar ôl ei brynu gan reolwr

 

Fromstock LtdCafodd Fromstock ei atgyfeirio at Cyllid Cymru gan gynghorwyr. gan geisio cyllid ar gyfer MBO.

 

Bydd cwmni cyflenwi metel o dde Cymru yn parhau i dyfu ar ôl i’w reolwr gyfarwyddwr ymddeol.

 

Prynodd Jan Frayne grwp cwmnïau CG gan y sefydlydd Colin Rees. Fel rhan o’r cytundeb bydd Mr Frayne yn dod yn berchennog a rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, a ailenwyd yn Fromstock.

 

Buddsoddodd Cyllid Cymru £650,000 yn y dêl olyniaeth ar ôl i CODA Business Management gyfeirio Mr Frayne atom.

 

Cynllunio ymlaen ar gyfer olyniaeth

 

Cyhoeddodd Mr Rees ei benderfyniad i ymddeol yn 2006 ond ni ddymunai weld y cwmni’n cau. Paratodd gynllun olyniaeth gyda Mr Frayne a fu gyda’r cwmni ers 17 mlynedd.

 

Mae’r cwmni wedi masnachu ers 1974 ac mae ei gwsmeriaid yn cynnwys nifer o gwmnïau blaenllaw. Mae Mr Frayne hefyd yn bwriadu ehangu’r busnes a chreu swyddi newydd.

 

Sicrhau buddsoddiad drwy gyfryngwr

 

Ceisiodd Mr Frayne gyngor proffesiynol i godi’r £1.3m oedd ei angen ar gyfer y cytundeb olyniaeth. Cyfeiriodd CODA Business Management ef at Cyllid Cymru a phartneriaid preifat a chyhoeddus eraill, yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Roedd y cynghorwyr eraill yn cynnwys New Law, BPU Accountants a Tony Price Associates. Cynghorwyd Cyllid Cymru gan Broomfield and Alexander a Go Industry.