The Edge of Love yn taro’r sgrin fawr

Cafodd The Edge of Love, ffilm a gefnogwyd gan
Gronfa ED Creadigol Cymru am fywyd Dylan Thomas, ei ffilmio yng
Nghymru a daeth â £1 miliwn i economi Cymru.
Mae’r cynhyrchiad, gyda Keira Knightly, Sienna
Miller a Matthew Rhys, yn y prif rannau yn adrodd stori Caitlin
Thomas a Vera Killick a’u perthynas gyda’r bardd enwog.
Sicrhaodd y prosiect £700,000 o fuddsoddiad
o’r gronfa ED, a reolir gan Cyllid Cymru ar ran Llywodraeth
Cynulliad Cymru. Mewn dychweliad am y buddsoddiad, cymerodd y
Gronfa ED gyfran o’r eiddo deallusol a gynhyrchwyd gan y prosiect a
bydd yn anelu i adennill swm llawn y buddsoddiad gwreiddiol a
rhannu yn refeniw’r dyfodol.
Roedd y buddsoddiad yn amodol ar i’r
cynhyrchiad wario mwy na £1 miliwn yng Nghymru.
“Daeth y ffilm, a ffilmiwyd yng ngorllewin
Cymru y llynedd, â mwy na £1 miliwn o fuddion economaidd
uniongyrchol i’r ardal,” meddai Bethan Cousins, rheolwr Cronfa
ED.
“Y buddsoddiad yw’r un mwyaf gan Gronfa ED Creadigol Cymru hyd
yma ac mae’n adeiladu ar fri cynyddol Cymru ar gyfer y diwydiannau
creadigol a’n gallu i ddenu a chynhyrchu cynyrchiadau safon uchel
o’r math hwn.”