Cyllid Cymru yn buddsoddi mewn cwmni peirianneg arbenigol

 

09/12/09

 

Mae Cyllid Cymru wedi buddsoddi £1.5 miliwn o gyllid yng nghwmni peirianneg arbenigol Jenkins and Davies er mwyn i’r rheolwyr brynu i mewn i’r cwmni (MBI).

 

Mae’r cwmni’n darparu gwasanaethau peirianneg mewn amrywiaeth o sector, er ei fod yn arbenigo yn y diwydiant petro-gemegol, gan wneud gwaith cynnal a chadw a thrwsio, adnewyddu tanciau storio a chynnal a chadw cyfnewidwyr gwres.

 

Mae Jenkins and Davies yn Noc Penfro, Gorllewin Cymru, yn cyflogi mwy na 100 o bobl. Mae David Wright a Martin Kiss wedi prynu i mewn i’r busnes a byddant yn gweithio’n agos gyda’r cyn-berchnogion, Mark Davies a Stephen Smedley, i sicrhau pontio llyfn. Daw Mr Wright yn Gyfarwyddwr Ariannol a Mr Kiss yn Rheolwr Gyfarwyddwr fel rhan o’r MBI.

 

Sefydlwyd y cwmni yn 1969 ac mae wedi gweithio’n agos gyda chwsmeriaid ledled De Cymru, yn cynnwys purfeydd olew yng Ngorllewin Cymru. Mae’n un o nifer fach o gwmnïau yn y Deyrnas Unedig sy’n medru darparu gwasanaethau cynnal a chadw i systemau cyfnewidwyr gwres o fewn y diwydiant olew.

 

“Mae gennym enw ardderchog yn sector petro-gemegol y Deyrnas Unedig am ein gwasanaethau peirianneg arbenigol. Cododd y cyfle i ni brynu’r busnes a gweithio’n agos gyda’r tîm rheoli presennol. Roedd buddsoddiad gan Cyllid Cymru yn hollbwysig wrth sicrhau’r MBI,” meddai Mr Wright.

 

“Mae gennym berthynas agos gyda’n cwsmeriaid presennol ac mae hyn yn rhywbeth rydym eisiau adeiladu arno drwy fuddsoddiad newydd. Rydym hefyd yn gweld cyfleoedd newydd mewn meysydd eraill ac yn frwd i ddilyn hyn.”

 

Ychwanegodd Mr Kiss: “Mae’n fusnes fel arfer i Jenkins and Davies Cyf. Mae gennym weithlu ardderchog sy’n rhoi gwasanaeth dibynadwy o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid, a’n blaenoriaeth yw cynnal y lefel honno o wasanaeth a dibynadwyedd. Rwy’n falch y bydd Mark a Stephen yn parhau i weithio gyda ni i sicrhau ein bod y rhoi’r gwasanaeth gorau a fedrwn.”

 

Mae prif feysydd gweithredu’r cwmni yn cynnwys cynnal a chadw cau safle a gwasanaethau cynnal a chadw parhaus. Maent hefyd yn arbenigo mewn cynnal a chadw cyfnewidwyr gwres ac adnewyddu tanciau storio olew a nwy.

 

Bu Rhian Pugh a Nick Sylvester, Swyddog Gweithredol Buddsoddi Cyllid Cymru, yn gweithio ar y ddêl. Dywedodd Rhian: “Mae’r cwmni wedi sefydlu’n dda ac mae ganddo record gref o lwyddiant gyda’i gwsmeriaid. Cynigiwyd cyfle i’r tîm rheoli brynu’r cwmni drwy olyniaeth naturiol ac mae ganddynt gynlluniau i fynd â’r busnes rhagddo. Bu Cyllid Cymru yn falch i gefnogi hyn drwy ddêl ecwiti a dyled.”

 

Y cynghorwyr ar y ddêl oedd HW Corporate Finance, PBD, Quinn Partnership, Hugh James Solicitors a Capital Law.

 

Ymholiadau gan y cyfryngau

 

E-bost: communications@financewales.co.uk

Ffôn: 029 2033 8126