Cronfa ED Creadigol Cymru yn buddsoddi yng nghyfres dra llwyddiannus CBeebies – Grandpa in my pocket

 

23/10/09

 

Mae Cronfa ED Creadigol Cymru wedi buddsoddi yn ail gyfres Grandpa In My Pocket, comedi dra llwyddiannus CBeebies – yn dilyn llwyddiant byd-eang y gyfres gyntaf y buddsoddodd y gronfa ynddi.

 

Mae’r Gronfa ED wedi buddsoddi £290,000 yn y cynhyrchiad a ddefnyddiodd gyfleusterau technegol a stiwdio yng Nghymru. Roedd y gyfres gyntaf yn gyson ar frig rhaglenni poblogaidd CBeebies a bu yn 10 uchaf iPlayer ar-lein CBeebies. Hi hefyd oedd y sioe deledu plant fwyaf poblogaidd ar draws pob sianel ddaearol ac aml-sianel rhwng mis Ionawr a mis Awst eleni (Ffynhonnell: Toy News, Infosys/Barb).

 

Gyda James Bolan yn y brif ran, anelwyd y rhaglen at blant dan oedran ysgol ac mae’n gomedi am anturiaethau bob dydd bachgen ifanc gyda’i daid drygionus a’i gap hud.

 

Wedi’i chreu a’i chynhyrchu gan Adastra Creative, yr ail gyfres 26 pennod yw’r diweddaraf mewn rhes o gynyrchiadau animeiddio a rhaglenni plant yng Nghymru i dderbyn cyllid masnachol o’r Gronfa ED.

 

Wedi’i rheoli gan Cyllid Cymru ccc ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cronfa ED Creadigol Cymru yn darparu buddsoddiad ecwiti ar gyfer prosiectau ffilmiau hir, cynyrchiadau teledu, cyfryngau newydd a cherddoriaeth. Rhaid gwario cyfran o’r cyfanswm cyllideb cynhyrchu yng Nghymru fel rhan o’r buddsoddiad cyffredinol.

 

Gwariwyd mwy na £824,000 yng Nghymru ar gyfres gyntaf Grandpa In My Pocket ac mae’r ail gyfres wedi defnyddio’r un tîm cynhyrchu, gydag animeiddio ac effeithiau arbennig CGI gan Stiwdios Dinamo ym Mae Caerdydd a ffilmio gweithredu byw arall yn digwydd yn Stiwdios Enfys yng Nghaerdydd.

 

“Bu cyfres gyntaf Grandpa In My Pocket yn llwyddiant ysgubol i CBeebies a’r BBC,” meddai Beth Bannister, Swyddog Gweithredol Buddsoddi’r Gronfa ED. “Dangosodd hefyd yr arbenigedd cynhyrchu sydd yma yng Nghymru, gydag animeiddio a chynhyrchu CGI, yn ogystal â ffilmio gweithredu byw, yn digwydd yma. Denodd hyn wariant a buddsoddiad sylweddol yma yng Nghymru fel canlyniad a buddsoddiad pellach o’r fath fel canlyniad i’r penderfyniad i gomisiynu ail gyfres.”

 

Gwerthwyd hawliau i’r rhaglen yn fyd-eang, yn cynnwys Awstralia, Canada, Ffrainc, y Dwyrain Pell, yr Aifft, y Dwyrain Canol, Affrica, Swistir, Cyprus a Gwlad Pwyl. Daeth yn rhaglen plant ar yr amser brig yn Awstralia ym mis Mehefin.

 

Crëwyd Granda In My Pocket gan Mellie Buse a Jan Page, sydd hefyd yn gyfrifol am Charlie and Lola, The Tweenies, Fimbles and The Large Family, ffefrynnau eraill ar CBeebies.

 

Y prif gyfarwyddwr yw Richard Bradley, sydd hefyd wedi cyfarwyddo Smile, Art Attack, The Hoobs a This Morning.

 

Wrth siarad am fuddsoddiad y Gronfa ED, dywedodd Mellie: “Rydym yn falch fod y Gronfa ED wedi ymuno ar gyfer yr ail gyfres gyda’r BBC. Bydd y buddsoddiad unwaith eto’n sicrhau cynhyrchiad ansawdd uchel a gaiff ei ffilmio a’i gynhyrchu yng Nghymru.”

 

Ymholiadau gan y cyfryngau

 

E-bost: communications@financewales.co.uk

Ffôn: 029 2033 8126