Cronfa Eiddo Deallusol Cymru yn gwneud ei fuddsoddiad cyntaf
mewn trac sain ar gyfer ffilm newydd Matthew Rhys
28/07/09
Mae Cronfa ED Creadigol Cymru wedi cymryd ei gyfran gyntaf mewn
trac sain ffilm ar ôl buddsoddi yn ffilm hir ddiweddaraf Matthew
Rhys, Patagonia, a dderbyniodd gyllid ychwanegol gan Asiantaeth
Ffilm Cymru.
Cyfran ecwiti £120,000 y Gronfa ED yn y cynhyrchiad yw ei
buddsoddiad cyntaf sy’n cynnwys hawliau i refeniw a gynhyrchir o
drac sain cynhyrchiad.
Mae Patagonia, gyda Matthew Rhys a Nia Roberts yn y prif rannau,
yn gynhyrchiad dwyieithog a leolwyd ym Mhatagonia ac yng Nghymru.
Mae’r stori’n dilyn bywydau cyfochrog cwpl yn eu 30au a deithiodd
i’r Wladfa i ailasesu eu perthynas a menyw oedrannus o’r Wladfa
sy’n gwneud y daith yn y cyfeiriad arall, gyda chydymaith iau, i
ogledd Cymru.
Cynhyrchwyd y ffilm, a ysgrifennwyd gan Laurence Coriat a Marc
Evans, gan Rebekah Gilbertson a Flora Fernández-Marengo. Bu Rhys yn
gweithio’n flaenorol gyda Gilbertson ar The Edge of Love.
Bu’r cynhyrchiad yn ffilmio ym Mhatagonia a lleoliadau ledled
Cymru. Gwerir o leiaf £322,000 o’r costau cynhyrchu yng
Nghymru.
“Mae Patagonia yn unigryw i’r Gronfa ED gan mai dyma’r
cynhyrchiad cyntaf lle’r ydym wedi buddsoddi yn y trac sain
cysylltiedig yn ogystal ag yn y ffilm ein hunan. Credwn y bydd y
trac sain yn rhagorol ac unigryw,” meddai Bethan Bannister o’r
Gronfa ED.
“Mae gan Patagonia hefyd - a ffilmiwyd ym moelni’r paith yn
Chubut a bryniau glas yr Andes, heb sôn am leoliadau allweddol ar
hyd a lled Cymru - holl nodweddion cynhyrchiad gweledol eithriadol
o gyfoethog.”
Wedi’i reoli gan Cyllid Cymru ccc ar ran Llywodraeth Cynulliad
Cymru, mae Cronfa ED Creadigol Cymru yn darparu buddsoddiad ecwiti
ar gyfer ffilmiau hir, cynyrchiadau teledu, cyfryngau newydd a
phrosiectau cerdd. Mae’n amod o fuddsoddiad y Gronfa y gwerir
cyfran o gyfanswm cyllideb y cynhyrchiad yn uniongyrchol yng
Nghymru. Mae’r buddsoddiad hefyd yn sicrhau fod y Gronfa ED yn
manteisio o unrhyw enillion, a gaiff eu hailfuddsoddi mewn
prosiectau creadigol yn y dyfodol yng Nghymru.
Mae Asiantaeth Ffilm Cymru wedi darparu £200,000 o gyllid tuag
at y cynhyrchiad, sydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Gomisiwn
Sgrin Cymru. Mae’r Comisiwn wedi rhoi cefnogaeth logistaidd a
chydlynu, gan gynorthwyo i ddod o hyd i leoliadau, ymweliadau reci
a chysylltu gyda pherchnogion lleoliadau.
Dywedodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru:
“Roedd yr Asiantaeth Ffilm yn awyddus iawn i gefnogi’r prosiect
hwn, gyda’r dalent allweddol ddeniadol, drwy ei gam datblygu ac
ymlaen i gynhyrchu.
“Roedd cynhyrchydd deinamig a chryf a chyfarwyddwr profiadol,
hyblyg a meistrolgar ym Marc Evans a ddaeth, gyda gweledigaeth
tymor hir, yn bartner yn Patagonia Productions. Yn eu tro, maent
wedi datblygu drama hudolus ac emosiynol a’u galluogodd i ddenu
actorion dawnus gwych. Dylai’r stori emosiynol daro tant ar draws
ffiniau ac apelio at gynulleidfaoedd ymhell ac agos.”
Yr arianwyr eraill sy’n cefnogi’r ffilm yw S4C, Pepper Post,
Universal Music, JC Trust a Grenville Thomas. Yr asiant gwerthu yw
The Little Film Company.
Wrth groesawu’r buddsoddiad a chyllid o sefydliadau yng Nghymru,
dywedodd y cynhyrchydd Rebekah Gilbertson: “Gall cynhyrchydd
ymdrechu am fisoedd i ddod o hyd i syniad a’i ddatblygu. Rydych yn
dod o hyd i awdur a chyfarwyddwr, a chodi arian had ar gyfer
datblygu sgript. Yna ewch ati i ddod o hyd i leoliadau a chast. Ar
ôl hyn i gyd daw’r funud dyngedfennol pan roddwch gyflwyniad ar
gyfer codi’r arian fel y medrir gwneud eich ffilm.
“Os ydych wedi gwneud eich gwaith, medrwch ddechrau dod ag arian
go iawn i mewn, ond mae’n golygu llawer iawn o waith ac yn y diwedd
ni fydd eich ymdrechion byth yn ddigon. Wedyn, yn union pan gredwch
y gall fod yn rhaid i chi roi’r ffidil yn y to, mae buddsoddwyr fel
Cronfa ED Creadigol Cymru a sefydliadau megis Asiantaeth Ffilm
Cymru yn sylweddoli’r hyn rydych yn ceisio ei wneud ac yn rhoi’r
help llaw sy’n gwneud yr holl wahaniaeth. Ni all Marc Evans,
finnau, ein cast a’r holl dîm cynhyrchu ddiolch digon iddynt am
wireddu ein breuddwyd.”
Ymholiadau gan y cyfryngau
E-bost: communications@financewales.co.uk
Ffôn: 029 2033 8126