Cyllid Cymru yn buddsoddi mewn busnes ‘technoleg lân’
29/01/10
Mae Land Energy wedi cychwyn cynhyrchu pelenni pren fel tanwydd
masnachol amgen mewn buddsoddiad £2 miliwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr,
gyda chefnogaeth £350,000 o fuddsoddiad dyled gan Cyllid Cymru.
Mae Land Energy yn ailgylchu pren yn belenni y medrir eu
defnyddio fel biodanwydd mewn gorsafoedd pŵer a diwydiant ar gyfer
gwresogi. Mae wedi prynu safle pelenni pren ym Mhen-y-bont ar Ogwr
ac wedi buddsoddi mewn adeilad newydd proses, storio a phorthiant
12,000tr sg, peiriannau mireinio ffibr pren ac uwchraddio galluedd
malu ffibrau a phelenni pren.
Mae’r cwmni’n ffurfio rhwydwaith o safleoedd gweithgynhyrchu
pelenni pren lleol ledled y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â’r
angen cynyddol am ffynonellau ynni adnewyddadwy.
Bu Rhian Pugh a Karen Davies, Swyddogion Buddsoddi Cyllid Cymru,
yn gweithio ar y ddêl. Dywedodd Pugh: “Mae biomas yn dod yn
bwysicach bob dydd wrth i gwmnïau edrych am amgennau i danwyddau
confensiynol a’r pwysau’n cynyddu i ostwng allyriadau CO2. Mae Land
Energy wedi cyflwyno strategaeth biomas y mae’n ei hystyried yn
allweddol i gyflawni arallgyfeirio tanwydd ac atal carbon.”
“Rydym yn falch i gefnogi’r prosiect yma drwy ein cronfa
fasnachol £150 miliwn, gan arddangos ein hymrwymiad i gefnogi twf
busnesau sy’n datblygu syniadau a chyfleoedd masnachol newydd.”
Dywedodd John Westmacott o Land Energy: “Roedd cael mynediad i
fuddsoddiad ar gyfer y busnes newydd yn hanfodol. Rydym yn falch i
gael cefnogaeth Cyllid Cymru sydd wedi gweithio’n agos gyda ni drwy
gydol y broses.”
Y cynghorwyr ar y ddêl oedd Black and Veatch Cyf a roddodd
gyngor technegol i Cyllid Cymru.
Mae Cyllid Cymru yn darparu cyllid masnachol i fusnesau bach a
chanolig yng Nghymru. Lansiodd gronfa newydd £150 miliwn ym mis
Ebrill 2009, gyda chefnogaeth cyllid o Fanc Buddsoddi Ewrop a’r
Undeb Ewropeaidd drwy gynllun JEREMIE (Cyd-adnoddau Ewropeaidd ar
gyfer Busnesau Micro i Ganolig).
Ymholiadau gan y cyfryngau
E-bost: communications@financewales.co.uk
Ffôn: 029 2033 8126