Safbwynt Peter Wright ar... 2010
25/01/10
Mae nawr yn amser ardderchog i fuddsoddi ac
mae gan Cyllid Cymru y cyllid i helpu tyfu busnesau eich
cleientiaid, felly anogwch hwy i fod yn ddewr a chael ’chwilen twf’
yn 2010.
Gyda 2009 yn flwyddyn ddiddorol ac ansicr, gorfodwyd llawer o
berchnogion busnes a rheolwyr i edrych o ddifrif ar eu
blaenoriaethau. Nawr, wrth i ni symud i ddegawd newydd, credaf na
fydd amser gwell i lawer o fusnesau fuddsoddi ar gyfer twf.
Anelu’n uchel
Yn Cyllid Cymru rydym bob amser wedi bod yn awyddus i ddarbwyllo
busnesau bach a chanolig Cymru i gael ‘chwilen twf’ a chyflawni eu
gwir botensial. I mi, dylai 2010 fod i gyd am fuddsoddi mewn twf.
Hyd yn oed mewn cyfnod economaidd anodd mae cyfleoedd ar gael, ond
bydd angen uchelgais, hyder ac yn bennaf oll ddewrder ar gyfer
hyn.
Rwy’n falch ein bod yn gweld mwy a mwy o berchnogion a rheolwyr
yn edrych ar i allan ac eisiau tyfu eu busnesau a thorri drwy
‘nenfwd gwydr’ trosiant £2 miliwn. Nid felly y bu bob amser ac ar
hyn o bryd rydym hefyd yn gweld mwy o fusnesau bach a chanolig gyda
throsiant o £10m a mwy yn ceisio cyllid buddsoddi.
Cynllunio, cynllunio, cynllunio
Ble bynnag mae busnesau eich cleientiaid arni heddiw, mae rhai
pethau allweddol iddynt eu hystyried os ydynt i wneud gwahaniaeth
go iawn yn 2010. Yn bwysicaf oll, oes gan y busnes gynllun busnes
cadarn sy’n wirioneddol adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd yn y busnes?
Mae’r pwyntiau eraill i’w hystyried yn cynnwys:
- Pwy sydd yn ei dîm rheoli ac a oes bylchau sgiliau?
- Ym mha farchnad mae’r busnes yn gweithredu a beth yw ei
ymwybyddiaeth marchnad?
- A yw wedi ystyried bygythiadau allanol yn ogystal â
chyfleoedd
Ac nid dyna ddiwedd y rhestr.
Felly, anogwch eich cleientiaid i fod yn ddewr a chychwyn ar
lwybr twf yn 2010 - anogwch hwy i anelu’n uchel a gweithiwch gyda
hwy i ysgrifennu’r cynllun busnes newydd yna.
Yr hyn y dylech ei wneud yn awr
Cysylltu â ni gyda manylion busnes
eich cleientiaid.