Safbwynt Mike Owen: addunedau Blwyddyn Newydd ar gyfer 2010

 

14/01/10

 

Mike Owen, new investments manager

Mae mis Ionawr yn draddodiadol yn amser pan fyddwn yn edrych ymlaen a meddwl am newidiadau personol i wella ein hansawdd bywyd. Yn aml, serch hynny, rydym wedi llithro’n ôl i’n hen arferion erbyn mis Chwefror!

 

Felly p’un ai ydynt yn addunedau personol neu addunedau busnes, rwy’n credu y dylem fod yn adolygu a meddwl yn gyson am ffyrdd i wella os ydym o ddifrif am sicrhau iechyd a ffyniant.

 

Dyma fy 6 adduned Blwyddyn Newydd ar gyfer 2010:

  1. Llunio cynllun busnes cadarn a realistig sy’n wirioneddol adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd yn eich busnes. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei adolygu’n gyson ac yn ei gadw

  2. Meddwl am eich tîm rheoli. A oes gan y tîm y cyfuniad cywir o sgiliau a phrofiad? Gall tîm cryf wneud eich busnes, ond bydd tîm gwan yn ei ddal yn ôl.

  3. Adolygu eich cyllidebau a rhagolygon yn rheolaidd. Ydych chi’n rheoli eich busnes yn unol â hynny? Nid yw pethau annisgwyl a diangen yn dda i unrhyw fusnes a ‘dyw arianwyr posibl ddim yn eu hoffi chwaith!

  4. Cynyddu ymwybyddiaeth o’r farchnad. Ydych chi’n methu cyrraedd neu’n rhagori ar eich targedau gwerthiant? Ydych chi’n gwybod ym mha farchnadoedd yr ydych ynddynt a pha rai y dylech fod yn eu targedu?

  5. Buddsoddi ar gyfer twf. A fedrai’ch busnes fod yn cyflawni mwy gyda buddsoddiad ychwanegol? Yn dibynnu ar eich llif arian, efallai nad benthyciad yw’r opsiwn bob amser a medrai cyfuniad o ddyled ac ecwiti fod yn ddatrysiad gwell.

  6. Cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad. Mae gan eich busnes werth ac rydych wedi gweithio’n galed i’w adeiladu, felly peidiwch â thaflu oes o waith caled ymaith!

Rydym yn buddsoddi mwy yn Cyllid Cymru - dros £20 miliwn hyd yma yn 2009-10, mewn gwirionedd, ac rydym yn awyddus i fuddsoddi yn eich busnes.

 

Felly byddwn yn eich annog i wneud rhai newidiadau parhaol i’ch busnes a mynd am dwf yn 2010!

 

Yr hyn y dylech ei wneud 'nawr

 

Cysyllwch â ni gyda manylion eich busnes.