Safbwynt Matthew Pugh ar … dyfu eich busnes
10/03/10

Rydych wedi masnachu drwy gyfnod caled yn ddiweddar ac wedi dod
drwyddi.
Efallai eich bod hyd yn oed gweld peth goleuni ar ben arall y
twnnel wrth i’r economi wella’n raddol. Ond beth mae hyn yn ei
olygu i’ch busnes? A yw’ch busnes yn dod trwyddi neu’n dod
ymlaen?
Efallai eich bod yn gwybod beth sydd angen ei wneud, ond dim yn
sicr sut i fynd o’i chwmpas hi a sut i ariannu eich cynlluniau.
Wel, medrai nawr fod yr union amser i ddechrau adeiladu dyfodol
eich busnes.
Bydd eich tîm rheoli wedi profi pa mor ddyfeisgar a gwydn ydyw
dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’n debyg bod eich cynllun
busnes yn gadarnach nag erioed. Ond peidiwch anghofio wrth i’ch
perfformiad busnes chi wella, felly hefyd berfformiad busnes eich
cystadleuwyr.
Medrai nawr fod yr amser cywir i fynd â’r maen i’r wal ac arwain
y gystadleuaeth. Efallai eich bod yn ystyried datblygu cynnyrch
newydd neu fynd i farchnad newydd. Gall fod angen i chi symud i
safle newydd neu ddatblygu sylfaen sgiliau eich gweithwyr.
Beth bynnag yw’ch cynllun busnes, medrai cyfalaf datblygu fod yr
ateb.
Os ydych wedi gweithio gyda ni o’r blaen, byddwch yn gwybod
popeth am fanteision ehangu busnes. Byddwch yn gwybod sut y
gweithiwn gyda chi a defnyddio ein harbenigedd i strwythuro’r ddêl
iawn i chi, beth bynnag yw eich anghenion buddsoddi.
Rydym wedi arfer helpu pobl fusnes fel chi. Medrai buddsoddiad
gan Cyllid Cymru wneud gwahaniaeth go iawn.
Os ydych yn ystyried buddsoddi ym musnes eich dyfodol, cysylltwch â fi.