Safbwynt Mike Owen ar … pam fod Cyllid Cymru yn gwneud mwy o
fuddsoddiadau
05/03/10

Rydym wedi siarad llawer yn y flwyddyn ddiwethaf am y cynnydd
yn lefelau buddsoddi Cyllid Cymru. Rydym newydd gael chwarter gwych
ac mae ein perfformiad buddsoddi ar gyfer 2009-10 yn £29 miliwn ar
hyn o bryd.
Un peth y sylwais arno yn fy 8 mlynedd gyda’r cwmni yw cynnydd
ym maint cyfartalog ein buddsoddiadau. Yn 2002, roeddem yn
buddsoddi £40,000 mewn cylch ar gyfartaledd. Mae maint cyfartalog
ein deliau presennol wedi mwy na threblu i £130,000.
Credais y byddai’n dda rhannu gyda chi pam ein bod yn buddsoddi
symiau mwy ym mhob dêl ac i ystyried pam fod Cyllid Cymru yn gwneud
mwy o fusnes.
Cyflenwi a galw
Nid oes osgoi’r ffaith, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, fod
gan fuddsoddwyr eraill lai o archwaeth am y math o fuddsoddiadau yr
arbenigwn ynddynt. Mae banciau i raddau helaeth wedi mynd yn ôl i’w
busnes “sylfaenol” ac yn canolbwyntio ar fuddsoddiadau sydd wedi’u
gwarantu’n llawn.
Ond nid yw’r galw am ddeliau cyfalaf gyda rhan-warant ac
anwarantedig wedi diflannu. Dyma’r math o fuddsoddiadau y mae
Cyllid Cymru yn dda amdanynt ac mae ein cronfa £150 miliwn yn
golygu y medrwn barhau i wneud mwy ohonynt.
Enw da
Pe na bai busnesau a’u cynghorwyr yn ymddiried yn Cyllid Cymru,
fedrem ni ddim gwneud busnes.
Mae cynghorwyr yn sylweddoli fod gennym hanes cryf o lwyddiant,
felly maent yn dod â chyfleoedd buddsoddi mwy i ni. Rwy’n credu
mai’r rheswm am hyn yw ein pobl - ased fwyaf Cyllid Cymru.
Mae ein gwneuthurwyr deliau yn brofiadol iawn mewn ystod eang o
fuddsoddiadau, o ddeliau dyled bach i fuddsoddiadau ecwiti gwerth
sawl miliwn o bunnau. Mae ein profiad buddsoddi cyfun yn agos at
200 mlynedd a phwy ŵyr faint yw ein hoedran i gyd gyda’n
gilydd!
Oherwydd ein bod mor amlwg ar y llwyfan buddsoddi yng Nghymru,
rydym yn medru datblygu perthynas broffidiol a pharhaus gyda’r
busnesau y buddsoddwn ynddynt a’r cynghorwyr sy’n eu cyfeirio
atom.
Agos atoch
Rydym yn awyddus i wneud deliau, felly rydym wedi symleiddio’r
ffordd y gweithiwn i wneud penderfyniadau gwell a chyflymach.
Mae ein pobl yn agosach at eu cwsmeriaid nag erioed o’r blaen.
Rydym yn deall anghenion buddsoddi busnesau, felly rydym yn medru
helpu i strwythuro'r deliau cywir.
Os credwch y gall eich cleient ymuno â’r rhengoedd busnesau sy’n
tyfu oherwydd buddsoddiad Cyllid Cymru, cysylltwch â fi.