Cyfalaf datblygu ar gyfer twf eich busnes

 

Mae’ch busnes yn tyfu ac ar y cam lle’r ydych angen mwy o gyfalaf i barhau ei lwyddiant.

 

Gall buddsoddiad masnachol gan Cyllid Cymru gyflymu twf eich busnes.

 

Yn pwy ydym yn buddsoddi?

 

Gall unrhyw gwmni twf sy’n cyflawni ein meini prawf buddsoddi fod yn gymwys am gyfalaf datblygu. Efallai eich bod wedi manteisio’n flaenorol o fuddsoddiad cam cynnar gan Cyllid Cymru.

 

Y pecyn iawn ar yr amser iawn

 

Medrwn strwythuro pecyn buddsoddi o fenthyciad, ecwiti neu gyfuniad o’r ddau i’ch helpu i gyflawni pa bynnag heriau sy’n wynebu eich busnes twf. Medrai hyn gynnwys ehangu i farchnadoedd newydd, datblygu sianel gwerthiant newydd neu symud i adeilad mwy.

 

Gweithiwn gyda busnesau ar bob cam o’u datblygiad. Rydym yn chwilio am fusnesau y medrwn fuddsoddi ynddynt dros sawl cylch.