Buddsoddiadau cyfnod cynnar

 

Mae Cyllid Cymru yn buddsoddi mewn busnesau arloesol cyfnod cynnar sydd â’r uchelgais a’r potensial i ddod yn arweinwyr marchnad rhyngwladol.

 

Meini prawf buddsoddi

 

Buddsoddwn mewn busnesau seiliedig yng Nghymru neu fusnesau sy’n cynllunio sefydlu presenoldeb masnachol yng Nghymru.

 

Dylech ddangos:

  • Eiddo Deallusol unigryw y medrir ei ddiogelu
  • Bod eich tîm rheoli yn fedrus, hyblyg a gyda chymhelliant masnachol
  • Llwybr i’r farchnad clir
  • Potensial gadael

Ein hanes o lwyddiant

 

Gweithiwn gyda busnesau newydd neu sefydledig sy’n dymuno tyfu drwy ymelwa ar Eiddo Deallusol blaengar.

 

Buddsoddi mewn technoleg newydd

 

Mae gennym hanes cryf o lwyddiant mewn buddsoddi mewn cwmnïau cyfoethog mewn technoleg yn cynnwys:

 

OcelusOcelus

Cwmni newydd ym maes technoleg

Buddsoddiad ecwiti

£50,000 o gyfalaf datblygu

Darllen mwy.

 

Cyd-fuddsoddi a deliau syndicat

 

Gwnawn fuddsoddiadau syndicat gydag angylion busnes a buddsoddwyr preifat a sefydliadol, yn cynnwys:

 

DiurnalDiurnal

Cwmni twf

Buddsoddiad ecwiti

£150,000 buddsoddiad syndicat gyda Viking Fund.


Rydym wedi cwblhau nifer o ddeliau cyd-fuddsoddi, yn cynnwys:

 

AbcelluteAbcellute

Cwmni deillio o brifysgol

Buddsoddiad ecwiti

£400,000 cyd-fuddsoddiad gyda Fusion IP

Darllen mwy.

 

Mae ein Memoranda Dealltwriaeth gyda holl brifysgolion Cymru wedi arwain at nifer o fuddsoddiadau syndicat, yn cynnwys:

 

Q ChipQ Chip

Cwmni deillio o brifysgol

Buddsoddiad ecwiti

£250,000 buddsoddiad syndicâd gyda Fusion IP

Darllen mwy.

 

I holi am wneud cais am fuddsoddiad neu fuddsoddi mewn busnesau arweiniol cyfoethog mewn eiddo deallusol, cysylltwch â ni.