Helpu busnesau eich cleientiaid i dyfu

 

Mae twf unrhyw fusnes yn dibynnu ar y gefnogaeth a gaiff gan ei gynghorwyr busnes yn cynnwys cyfrifyddion, banciau a chyfreithwyr.

 

Mae busnes sy’n tyfu yn dda i fusnes

 

Gweithiwn yn agos gyda chyfryngwyr i helpu eu cleientiaid i gyrraedd eu potensial am dwf, gyda chyllid masnachol perthnasol wedi’i dargedu o rhwng £5,000 a £2 miliwn. Wedi’r cyfan, os yw busnesau eich cleientiaid yn tyfu, yna felly mae’ch busnes chithau.

 

Cofrestru


I gael mwy o’n gwefan: dywedwch wrthym am eich busnes a’ch diddordebau. Cofrestru.

 

Y wasgfa ar gredyd

 

Medrai’ch cleientiaid fod yn cael anhawster yn cael cyllid gan eu banciau a gan sefydliadau ariannol eraill.

 

Tra bod mwyafrif benthycwyr yn cyfyngu ar eu cyllid, mae Cyllid Cymru yn ei gwneud yn haws i fusnesau gael mynediad i gyllid hanfodol. Mae mwy o alw nag erioed am ein hamrediad llawn o becynnau buddsoddi pwrpasol yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

 

Mwy o wybodaeth am y mathau o ddeliau a wnawn.