Deliau o wahanol faint i weddu i anghenion eich
cleientiaid
Micro fenthyciadau
Gyda benthyciadau micro o rhwng £5,000 a £25,000 ar gyfer
busnesau bach a chanolig, rydym wedi cyflwyno strwythur prisio
diwygiedig a phroses gais symlach, sicrhau fod gan eich cleientiaid
fynediad i’r buddsoddiad sydd ei angen.
“Rydym yn frwd i siarad gyda chyfryngwyr am ffyrdd y medrwn
gefnogi gofynion cyllid eu cleientiaid ar yr amser anodd hwn,”
meddai Peter Wright, cyfarwyddwr buddsoddi, Cyllid Cymru.
Buddsoddiadau mwy
Medrai eich cleient fod yn datblygu cynnyrch newydd, yn
buddsoddi mewn technoleg newydd neu’n ehangu drwy gynyddu
gwerthiant. Ar adegau fel hyn maent angen buddsoddiad ychwanegol i
ddilyn eu huchelgais am dwf.
Medrwn gefnogi cynlluniau o’r fath gyda phecynnau cynllunio
wedi’u teilwra a all roi'r buddsoddiad cywir pan fo’n cyfrif.
“Nid oes yr un dau fusnes yr un fath ac rydym yn sylweddoli hyn.
Dyna pam ein bod yn ystyried pob cyfle buddsoddi ar ei haeddiant a
rhoi datrysiad buddsoddi sy’n gweddu i angen unigol busnesau,”
Peter Wright, cyfarwyddwr buddsoddi, Cyllid Cymru.