Cyllid i helpu eich busnes i dyfu
Mae’r hinsawdd economaidd bresennol yn ei
gwneud yn anos i fusnesau gael mynediad i gyllid masnachol. Mae
Cyllid Cymru yn darparu ystod o gyfleoedd cyllido i helpu busnesau
i dyfu, o fuddsoddiadau £5,000 i £1 miliwn a mwy.
Caiff ein pecynnau buddsoddi eu teilwra i bob
dêl unigol, felly gweithiwn gyda chi i sicrhau fod y buddsoddiad yn
iawn i chi.
Micro fenthyciadau
Gall Cyllid Cymru roi micro fenthyciadau o
rhwng £5,000 a £25,000 i helpu cefnogi twf eich busnes.
Gyda thelerau ad-dalu o hyd at bum mlynedd,
medrir defnyddio micro fenthyciadau i helpu ateb pa bynnag her y
medrai’ch busnes fod yn ei hwynebu a helpu i ddatblygu cyfleoedd
newydd am dwf.
Deliau mwy
Mae angen symiau mwy o gyfalaf ar gyfer
buddsoddi mewn ehangu, technoleg newydd neu olyniaeth rheolaeth.
Medrwn deilwra pecyn o gyllid sy’n gweddu i’ch gofynion.
Medrai hyn cynnwys buddsoddiad dyled neu
ecwiti, neu gyfuniad o’r ddau, yn dibynnu ar yr amgylchiadau a’r
math o gytundeb rydych ei angen. Gan weithio gyda chi a’ch
cynghorwyr busnes, medrwn sicrhau beth bynnag yw’r proisect, byddwn
yn anelu i greu pecyn buddsoddi addas i chi.
Wrth i’ch busnes dyfu, medrwch fod angen
cyllid ychwanegol ac rydym yn buddsoddi’n rheolaidd mewn cylchoedd
pellach o gyllid yn ein cwmnïau portffolio i sicrhau eu bod yn
cyflawni eu huchelgais.